- {{ error }}
Croeso i'r Gwasanaethau Addysg Ar-lein
Dyma lle rydych chi’n gwneud cais am le mewn ysgol. Rhaid bod gennych gyfrifoldeb rhiant dros blentyn i wneud cais. Pan fo’r cais ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal, y Gweithiwr Cymdeithasol ddylai wneud y cais a chadarnhau bod y dewis ysgol yn briodol.
Bydd angen i chi gofrestru cyfeiriad e-bost dilys i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Dim ond unwaith bydd angen i chi gofrestru, waeth sawl plentyn rydych chi’n ymgeisio am le iddo. RHAID I CHI BEIDIO â chaniatáu i rieni eraill ddefnyddio eich cyfrif derbyn ar-lein, gan y gallai hyn effeithio ar y cais ar gyfer eich plentyn chi. Dewiswch y botwm Cofrestru neu rowch eich manylion a dewis y botwm Mewngofnodi.
Os ydych wedi anghofio’ch cyfrinair, defnyddiwch y ddolen ‘wedi anghofio’r cyfrinair’. Os nad ydych wedi derbyn e-bost i ailosod eich cyfrinair, e-bostiwch school.admissions@newport.gov.uk i gael cymorth gyda hyn.
Pe baech yn dymuno gwneud cais am le mewn ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir (ffydd), cysylltwch â’r ysgol yn uniongyrchol.
Charles Williams Church in Wales Primary School / 01633 423497
St. David’s Roman Catholic Primary School / 01633 816027
St. Gabriel’s Roman Catholic Primary School / 01633 273937
St. Joseph’s Roman Catholic Primary School / 01633 258801
St. Mary’s Roman Catholic Primary School / 01633 840490
St. Michael’s Roman Catholic Primary School / 01633 262078
St. Patrick’s Roman Catholic Primary School / 01633 272488
St Joseph’s Roman Catholic High School / 01633 653110
Ar gyfer disgyblion ym Mlynyddoedd 12 a 13 dylid gwneud ceisiadau yn uniongyrchol i'r ysgol.